Dyma ymgeiswyr Plaid Cymru Pen-y-bont Bro Morgannwg ar gyfer etholiad Senedd 2026. Bydd y tîm yn cael ei arwain gan Mark Hooper, ymgeisydd Rhif 1 Plaid Cymru.

Mae Mark yn arwain rhestr ymgeiswyr Plaid Cymru ar gyfer etholiadau'r Senedd ym Mhen y Bont Bro Morgannwg. Mae'n gynghorydd yn awdurdod lleol Bro Morgannwg ac yn cynrychioli'r ward lle cafodd ei fagu.
Mae gan Mark brofiad helaeth ar ôl gweithio ar lefel uwch i gwmni o’r radd flaenaf, dechrau a rhedeg busnes cydweithredol, cynghori Llywodraeth Cymru ac yn fwyaf diweddar, yn y sector ynni cymunedol.
Fel aelod o'r Senedd, bydd Mark yn canolbwyntio ar ddatblygu economi sy'n gweithio i bawb, creu sector cyhoeddus sydd wedi'i baratoi'n well ar gyfer y dyfodol a sicrhau bod pawb yn cael eu hysbysu am ei waith yn y Senedd.
Mae Mark yn byw yn y Barri gyda'i deulu ac yn mwynhau cerdded eu cŵn Sox a Seren ar hyd traethau hardd y dref.
Sarah Rees
Sarah yw ail ymgeisydd Plaid Cymru ar y rhestr

Mae Sarah Rees yn ymgyrchydd ac arweinydd gwleidyddol gyda phrofiad helaeth ar draws polisi cyhoeddus, trefnu cymunedol, a'r sector gwirfoddol. Wedi'i siapio gan brofiad byw o dlodi a chamwahaniaethu, mae ei hagwedd at wleidyddiaeth wedi'i seilio ar dystiolaeth, cydweithredu, ac ymrwymiad i ddod o hyd i ddatrysiadau ymarferol.
Mae Sarah wedi dal rolau uwch ar draws gwleidyddiaeth a chymdeithas sifil, gan gynnwys gweithioyn ystod cyfnod mamolaeth i Aelod o'r Senedd yn ystod cyfnod clo Covid-19, lle arweiniodd dîm seneddol trwy gyfnod o argyfwng cenedlaethol a helpodd i gyflawni newid polisi ar iechyd mamolaeth ac amenedigol. Mae hi hefyd wedi sefydlu ac arwain menter gymunedol sy'n cefnogi menywod sy'n wynebu gwahaniaethu ar famolaeth, sicrhau a rheoli rhaglenni cyllid cyhoeddus, a chyflawni projectau cenedlaethol mewn partneriaeth ag undebau llafur, elusennau a'r llywodraeth.
Ar hyn o bryd mae Sarah yn uwch arweinydd mewn elusen ryngwladol, ac mae wedi helpu i ddatblygu polisi ar gyfiawnder rhywedd, gweithredu dros yr hinsawdd, ac economi lles i Gymru. Mae hi'n sefyll yn yr etholiad er mwyn dod â'r profiad hwn i Ben-y-Bont Bro Morgannwg — gan gynnig arweinyddiaeth gredadwy, tosturiol a chynrychiolaeth effeithiol sy'n canolbwyntio ar gyflawni newid gwirioneddol i gymunedau ledled Cymru.
Luke Fletcher
Luke yw trydydd ymgeisydd Plaid Cymru ar y rhestr

Yn enedigol o Bencoed, mynychodd Luke Ysgol Gymraeg Bro Ogwr, Ysgol Llanhari, ac yna Prifysgol Caerdydd ar gyfer ei raddau Israddedig a Meistr. Am bron i bum mlynedd, bu Luke yn gweithio yn y sector lletygarwch cyn dod yn ymchwilydd Economi a Chyllid.
Mae cefndir Luke wedi dylanwadu ar ei wleidyddiaeth. Yn dod o ardal ddosbarth gweithiol yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr a gyda chysylltiadau ag undebaeth lafur, fe'i etholwyd i’r Senedd yn 2021. Mae Luke wedi bod yn eiriolwr llafar y tu mewn a’r thu allan i siambr y Senedd ar ran y rheini o gefndiroedd incwm isel ac ardaloedd dosbarth gweithiol Cymru. Fel llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, mae Luke wedi gwthio’n gyson am bolisïau sy’n gwneud gwahaniaethau diriaethol, cadarnhaol i gymunedau niferus ac amrywiol Cymru. Un o flaenoriaethau Luke yw mynd i’r afael â thlodi ac achosion tlodi – mae bob amser yn awyddus i gyfarfod a chynorthwyo sefydliadau sy’n gweithio yn y maes hwn ar draws rhanbarth Gorllewin De Cymru, boed hynny ar lawr gwlad yn y cymunedau eu hunain neu wrth gyflwyno eu hachos ar eu rhan i Lywodraeth Cymru yn y Senedd.
Gyda Chymru yn wynebu cyfnod economaidd anodd, mae Luke yn canolbwyntio ar greu atebion gwirioneddol a chynaliadwy i'r cwestiynau economaidd mawr sy'n wynebu Cymru. Gyda golwg ar feithrin economi sy’n gyfiawn, sy’n cynnig newid sylfaenol ac sy’n gwella lles y bobl sy’n cynnal yr economi yn ein cymunedau ôl-ddiwydiannol a gwledig, mae Luke yn credu y gall Cymru fod yn lle sy’n sicrhau bod gan bawb yr hyn sydd ei hangen arnynt i fyw bywydau urddasol a boddhaus.
Marianne Cowpe
Marianne yw bedwaredd ymgeisydd Plaid Cymru ar y rhestr

Yn ystod gyrfa amrywiol ar draws Cynghorau Iechyd, Addysg a Sir, mae Marianne wedi adeiladu cyfoeth o brofiad ar lefel leol a chenedlaethol yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol. Ar hyn o bryd mae'n Gynghorydd Cymunedol a Sir ym Mro Morgannwg.
Mae'r wlad hon wedi cael ei siomi gan y Ceidwadwyr yn San Steffan lle llwyddon nhw i gamdrin pandemig a rhoi contractau i'w ffrindiau a rhoddwyr i’w plaid tra bod staff meddygol yn gweithio heb y PPE priodol. Mae'r llywodraeth Lafur yng Nghymru wedi dinistrio ein gwasanaeth iechyd a'n haddysg. Mae rhestrau aros yn hirach yng Nghymru na gweddill y DU a'r oedran darllen yma yn wynebu heriau sylweddol o'i gymharu â Lloegr. Dim ond Plaid Cymru sydd â'r polisïau a'r gallu i wyrdroi hyn a gwneud y peth iawn i bobl Cymru.
Ian Johnson
Ian yw bumed ymgeisydd Plaid Cymru ar y rhestr

Mae Dr Ian Johnson yn arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Sir Bro Morgannwg. Cyn-ymgeisydd Senedd a San Steffan, mae Ian wedi cynrychioli canol dre’r Barri ar Gyngor y Fro a Chyngor Tref Y Barri ers 2012, yn ail-etholwyd yn 2017 a 2022. Roedd e’n Faer Y Barri yn 2023/24. Roedd Ian yn uwch ymchwilydd Cymru ar gyfer elusen iechyd meddwl, Mind, ac wedi cael ei wobrwyo am ei waith fel ymchwilydd gwleidyddol, ac yn Bennaeth Polisi Plaid Cymru. Tu allan o wleidyddiaeth, mae Ian yn adnabyddus am ysgrifennu am bêl-droed CPD Y Barri a Chymru, yn drefnydd digwyddiadau Gŵyl Celfyddydau’r Barri, aelod bwrdd Cymdeithas Cymuned Gerddi Alexandra ac yn gyn-lywodraethwr ysgol mewn nifer o ysgolion y Barri, yn cynnwys Ysgol Uwch Whitmore, Ysgol Gyfun Bechgyn y Barri ac Ysgol Gynradd Gladstone.