Cronfa Ymgyrch Penybont Bro Morgannwg
Cronfa Ymgyrch Penybont Bro Morgannwg
Yn yr etholiad Seneddol ym mis Mai 2026, mae cyfle gwirioneddol gan Blaid Cymru i ffurfio’r llywodraeth nesaf yng Nghymru, gyda Rhun ap Iorwerth yn Brif Weinidog.
Ryn ni’n gofyn am gyfraniadau misol am yr wyth mis sy’n arwain at ddiwrnod yr etholiad, sef dydd Iau, 7 Mai 2026.
Gallai dy gyfraniad di olygu’r gwahaniaeth yn Afan Ogwr Rhondda rhwng dau Aelod o’r Senedd i Blaid Cymru, fel y rhagwelir ar hyn o bryd, a thri Aelod o’r Senedd, sy’n bosibiliad gwirioneddol os rhedwn ni’r ymgyrch orau posib.
Beth fyddai effaith ymarferol dy gyfraniadau?
Mae'r fideo isod yn egluro'r cyfan
https://vimeo.com/1141199882
Byddai £1,000 yn ein galluogi i argraffu 10,000 o daflenni A4 dwy ochr, lliw llawn y gellid eu dosbarthu i bob tŷ o ym Mhorthcawl a Phencoed.
Byddai £500 yn prynu pedair baner Plaid Cymru sy’n 3 metr o uchder, ac yn golygu ein bod ni’n amlwg ar y stryd fawr pan fyddwn ni’n cynnal stondinau stryd.
Byddai £100 yn ein galluogi i ddosbarthu taflen A5 dwy ochr, lliw llawn i bob un o’r 3,236 o dai sydd yn y Bontfaen.
Byddai £50 yn ein galluogi i ddanfon 60 cerdyn post i bleidleiswyr ifanc ledled Penybont Bro Morgannwg, i’w hannog i gefnogi’r Blaid ac annog eu ffrindiau i’n cefnogi hefyd.
Byddai £20 yn talu am bedair siaced ‘hi-vis’ gyda brandio’r Blaid, a fydd yn cadw’n hymgyrchwyr yn ddiogel ac yn weladwy wrth ganfasio.
Byddai £10 yn ein galluogi i hybu postiad ar Facebook ac Instagram am ddiwrnod i hyd at 6,000 o bobl yn Y Barri.
Byddai £5 yn talu am arwydd Plaid Cymru i’w roi tu allan i’r tŷ.